jump to content

Welcome to National Junior Beginning Competition

 

Meistri Mini Cymru

Mae Meistri Mini Cymru yn gystadleuaeth golff agored i chwaraewyr nad ydynt eto'n aelodau o glwb golff neu sydd wedi ymuno â chlwb golff yn ddiweddar ond sydd heb gael handicap yn llai na 28 eto.
Bydd pob rownd gymhwyso'n cael ei rhannu i'r categorïau canlynol:-

  • Merched a bechgyn ar 1 Medi 2011:
  • O dan 7 oed
  • 8 - 11 oed
  • 12 oed neu'n hyn

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal dros 9 twll yn y clybiau canlynol:

Clwb Golff y Trallwng 28 Gorffennaf
Clwb Golff Baron Hill 29 Gorffennaf
Clwb Golff Caerllion 1 Awst
Clwb Golff y Rhondda 2 Awst
Clwb Golff Caerfyrddin 3 Awst
Clwb Golff Abaty'r Glyn 5 Awst
Clwb Golff Borth 8 Awst
Clwb Golff Clays 9 Awst
Parc Gwledig y Gnoll(Castell-nedd) 10 Awst

 

Mae pob un o'r lleoliadau hyn wedi cael cefnogaeth gan Gronfa Dreftadaeth Cwpan Ryder ac mae'r rhain yn lleoliadau delfrydol i gael cyflwyniad i'r gêm.

Gall yr holl offer sydd ei angen i gymryd rhan yn y gystadleuaeth (clybiau a pheli) gael eu darparu gan leoliad y rownd gymhwyso, ond bydd cyfle i'r chwaraewyr ddefnyddio'u hoffer eu hunain os yw hynny'n well ganddynt.

Yn ogystal â'r gystadleuaeth 9 twll, ac os oes modd, bydd sawl prawf sgiliau ychwanegol gan gynnwys cystadleuaeth bytio a heriau gemau byr yn cael eu cynnal.

10 fydd nifer uchaf y trawiadau ar bob twll, ac mae nifer o newidiadau eraill i'r Rheolau Golff arferol. Cliciwch yma i weld rhestr lawn o Reolau'r Gystadleuaeth.

Mae'r pris mynediad yn £5 , ac mae hwn yn mynd i'r elusen gysylltiedig, Shelter Cymru, ac yn cyfrannu at gostau cynnal y digwyddiad. I gofrestru cliciwch yma.

Shelter Cymru Golf Development Wales Celtic Manor asbri golf
Prizes

Hawlfraint © Meistri Mini Cymru 2011 | Shelter Cymru Rhif Elusen Gofrestredig 515902