jump to content

Welcome to National Junior Beginning Competition

 

Rheolau

Bydd Rheolau Golff R&A yn cael eu defnyddio, heblaw am y canlynol:


1. Mae’n rhaid bod pob plentyn yng nghwmni oedolyn.

2. Caniateir i oedolion gyflawni holl swyddogaethau cadi arferol, ac maent yn gyfrifol am gofnodi sgôr eu chwaraewr ar bob twll.

3. 10 yw nifer uchaf y trawiadau sy’n gallu cael eu cofnodi ar unrhyw un twll. Pan fydd chwaraewr wedi taro 10 ergyd, mae’n RHAID codi’r bêl ac wedyn bydd y chwarae’n symud ymlaen i’r twll nesaf. Pan fydd hyn yn digwydd, bydd y sgôr uchaf yn cael ei gofnodi, sef 10.

4. NI ddylai ymdrechion i daro’r bêl, ond sydd heb gysylltu â’r bêl (ergydion i’r awyr), gael eu cyfrif.

5. Os yw chwaraewr yn methu â tharo’r bêl allan o fyncer ar ôl 2 ymdrech i wneud hynny, gall y chwaraewr godi’r bêl a’i gosod y tu allan i’r byncer, ond heb ei gosod mewn man sy'n agosach at y twll.

6. Os yw pêl yn cael ei cholli, mae’n rhaid i’r chwaraewr ail-daro’r bêl o’r safle sydd agosaf i’r man lle bu’n chwarae ddiwethaf, ac ychwanegu un ergyd at ei gyfanswm.

7. Nid oes unrhyw reolau ynghylch gwisg.

Nawdd

Mae cyfle gan bob chwaraewr i godi nawdd i Shelter Cymru. I gael mwy o wybodaeth am waith yr elusen, cliciwch yma (dolen i’r dudalen Amdanom Ni ar ein safle).

Bydd pob chwaraewr sy’n codi £30 yn cael cap Asbri a bydd pob chwaraewr sy’n codi £100 yn cael cap a bag golff.

Bydd y chwaraewr sydd wedi codi’r mwyaf o nawdd ym mhob rownd gymhwyso’n cael gwahoddiad arbennig i’r Rownd Derfynol. Bydd yr unigolyn sydd wedi codi’r swm mwyaf oll yn cael gwobr ychwanegol. Er mwyn bod yn gymwys i’r Rownd Derfynol, rhaid dod â’r holl arian nawdd i’r rownd gymhwyso. Bydd y swm terfynol yn cynnwys Rhodd Cymorth.

Caiff Meistri Mini Cymru ei drefnu gan Shelter Cymru a Datblygu Golff Cymru .



Hawlfraint © Meistri Mini Cymru 2011 | Shelter Cymru Rhif Elusen Gofrestredig 515902